Ezekiel 26

Tyrus
26:0 Tyrus Dinas borthladd enwog ar lan Môr y Canoldir, ryw 100 milltir i'r gogledd o Jerwsalem. Roedd wedi ei hadeiladu'n rhannol ar ynys.

1Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn,
26:1 diwrnod cyntaf y flwyddyn Ebrill 23, 587 CC mae'n debyg
a dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd:
2“Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem:

‘Hwrê! Mae'r giât
i'r ddinas fasnach ryngwladol
wedi ei dryllio!
Bydda i'n cael ei busnes!
Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog!
Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’

3“Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr. 4Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth. 5Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r Arglwydd, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus, 6a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.

7“Ie, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr. 8Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'i tariannau yn dod yn dy erbyn di! 9Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn. 10Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn trwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri trwy'r waliau. 11Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd gan y cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr. 12Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr. 13Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto. 14Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di'n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr Arglwydd ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’

15“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di'n syrthio, a sŵn dy bobl wedi eu hanafu yn griddfan wedi'r lladdfa. 16Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'i gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu trwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti. 17Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl:

O ddinas enwog ar y môr,
rwyt wedi dy ddinistrio!
Ti oedd yn rheoli'r tonnau,
gyda dy bobl yn codi dychryn
ar y ddynoliaeth gyfan.
18Ond bellach mae'r arfordir yn crynu
ar ddydd dy gwymp.
Mae'r ynysoedd i gyd mewn sioc
am dy fod wedi mynd.’

19“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i'n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy'n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a tithau'n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr. 20Byddi'n cael dy hun yn y Pwll – pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw. 21Bydd dy ddiwedd yn erchyll. Fydd dim sôn amdanat ti o hynny ymlaen. Bydd pobl yn chwilio amdanat ond yn methu dod o hyd i ti.’” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.

Copyright information for CYM